TR

Sponsorship Programme Manager | Rheolwr y Rhaglen Nawdd

Transport for Wales pontypridd Posted 22 Oct 2026 Closing: 21 Nov 2026
Permanent

Job Description & Overview

Rheolwr y Rhaglen Nawdd sy'n arwain y gwaith o noddi portffolio o brosiectau drwy ymgysylltu â chleientiaid a thimau cyflawni i sicrhau bod gwelliannau i asedau a gwasanaethau trafnidiaeth yn cefnogi amcanion datblygu Trafnidiaeth Cymru (TrC).

Overview

Cyfrifoldebau'r swydd

  • Bod yn gyfrifol am noddi prosiectau drwy sicrhau bod gwelliannau i asedau a newidiadau i wasanaethau yn cael eu cyflawni yn erbyn gofynion clir cleientiaid o ran cwmpas, amserlen a chyllideb er mwyn sicrhau gwelliannau i rwydweithiau trafnidiaeth Cymru.
  • Bod yn atebol am lywodraethu nawdd drwy fethodolegau cylch oes strwythuredig a safon uchel o bethau i\'w cyflawni er mwyn dangos rheolaeth.
  • Darparu gwerth ychwanegol drwy weld cyfleoedd ar gyfer manteision ychwanegol i gefnogi gwelliannau ym mhrofiad cwsmeriaid.
  • Hyrwyddo dull cydweithredol o gyflawni prosiectau drwy weithio\'n agos gyda thimau cyflawni a thrydydd partïon i sicrhau bod prosiectau\'n rheoli risgiau\'n effeithiol ac yn cyflawni yn unol â gofynion.
  • Cefnogi timau mewnol a rhanddeiliaid allanol sy'n gyfrifol am ddatblygu strategaethau rhanbarthol a chyflawni achosion busnes prosiectau drwy gynnal ymgysylltiad cadarnhaol i sicrhau bod cynlluniau newydd yn cael eu hasesu ar gyfer effeithiau ar weithrediadau trafnidiaeth.
  • Arwain o ran goruchwylio'r gwaith o gadw at y Dulliau Diogelwch Cyffredin drwy gymeradwyo elfennau i\'w cyflawni o ran sicrhau diogelwch systemau er mwyn sicrhau bod TrC yn parhau i gyflawni prosiectau\'n ddiogel.
  • Bod yn pwynt uwchgyfeirio i'r tîm drwy ddefnyddio prosesau ac awdurdod dirprwyedig i ddatrys problemau\'n effeithiol a chynnal y gwaith o gyflawni gofynion cleientiaid.
  • Cynrychioli\'r rhaglen i\'r Timau Arwain Gweithredol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol er mwyn rhoi sicrwydd o gynnydd ac uwchgyfeirio unrhyw faterion i\'w datrys pan fo angen.
  • Arwain a mentora\'r tîm nawdd drwy gynnal asesiad o lwyth gwaith, sgiliau a chymwyseddau, ymgysylltiad y tîm a chynlluniau datblygiad personol i gefnogi tîm effeithiol sy\'n llawn cymhelliant.
  • Datblygu a chynnal lefel o ragoriaeth mewn nawdd drwy gynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o newidiadau rheoleiddiol a datblygiadau mewn arferion gorau.

What we’re looking for

  • Addysg at lefel gradd a phrofiad cyfatebol
  • Profiad o noddi a/neu gyflawni prosiectau gan ddefnyddio prosesau seilwaith fel GRIP (Canllawiau Prosiectau Buddsoddi yn y Rheilffyrdd) neu RIBA.
  • Profiad o arwain a rheoli cynlluniau buddsoddi gwerth uchel.
  • Profiad o reoli rhanddeiliaid yn effeithiol.
  • Profiad o arwain tîm a rheoli pobl mewn amgylchedd sy\'n symud yn gyflym
  • Profiad o reoli risgiau cymhleth a chyflawni camau lliniaru effeithiol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol (ar lafar ac ar bapur) gyda sgiliau dylanwadu da.
  • Gwybodaeth am reoliadau iechyd, diogelwch ac amgylddol i gefnogi diwylliant cryf o ddiogelwch.

(Newidiwch yn unol â phob swydd, boed Sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu\'n ddymunol)

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni\'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell dosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Rydyn ni\'n newid y ffordd y mae\'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni\'n datblygu gweithlu sy\'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a\'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru\'n teithio."

Pwy ydyn ni

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru\'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw\'r dewis cyntaf. Rydyn ni\'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o\'r enw Rhwyd Network T, i\'w gwneud hi\'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi\'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni\'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o\'r swydd os byddwch chi\'n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni\'n cadw\'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.

#J-18808-Ljbffr
Ready to apply for this vacancy?

This driving opportunity is hosted on CV-Library. Click below to view the official posting and submit your application.

Key Details
  • Date Posted: 22 Oct 2026
  • Location: pontypridd
  • Employment Type: Permanent
  • Category: Management & Operations
100% FREE CV BUILDER
Need an updated driver CV?

Build an ATS-optimised transport CV in 5 minutes with professional templates.

Build Free CV Now
Employer Information
TR
Transport for Wales
Verified Transport Employer

Verified transport and logistics firm operating commercial fleets across the UK network.

More Jobs at Transport for Wales
Similar Driving Roles
Postal Delivery Driver
Pertemps Royal Mail • pontypridd
Postal Delivery Driver
CV-Library • Pontypridd